Palermo
}}Dinas a chymuned (''comune'') ar ynys Sisili yn yr Eidal Palermo, sy'n brifddinas ranbarth Sisili. Mae'n ganolfan weinyddol Dinas Fetropolitan Palermo hefyd. Saif ar arfordir gogledd-orllewinol yr ynys. Yn ogystal â bod yn ganolfan weinyddol mae hi'n borthladd pwysig.
Roedd poblogaeth ''comune'' Palermo yng nghyfrifiad 2011 yn 657,561.
Cafodd y ddinas ei sefydlu gan y Ffeniciaid yn yr 8fed ganrif CC. Roedd yn ddinas bwysig dan y Groegiaid a'r Rhufeiniaid ond ni ddaeth yn brif ddinas yr ynys tan gyfnod yr Arabiaid (9g - 11eg). Mae sawl adeilad hanesyddol yn y ddinas yn adlewyrchu'r diwylliant hybrid a flodeuai'r adeg honno ynddi. Codid adeiladau gwych yn yr Oesoedd Canol yn ogystal, gan gynnwys yr eglwys gadeiriol ysblennydd a'r palas Normanaidd, sydd bellach yn sedd y senedd ranbarthol. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2