Walter Gropius
Pensaer ac addysgwr Almaenig oedd Walter Adolph Gropius (18 Mai 1883 – 5 Gorffennaf 1969). Sefydlodd ysgol Bauhaus a gafodd ddylanwad mawr ar bensaernïaeth fodern.Ganwyd ym Merlin yn fab i bensaer, ac astudiodd ei grefft yn ysgolion technegol München (1903–04) a Berlin–Charlottenburg (1905–07). Treuliodd ei yrfa gynnar yn cynllunio ffatrïoedd a swyddfeydd, a magodd ddiddordeb mewn pensaernïaeth flaengar a chyfuno mecaneiddio gyda chelfyddyd. Gwasanaethodd fel swyddog y marchfilwyr ar Ffrynt y Gorllewin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac enillodd y Groes Haearn.
bawd|chwith|Adeilad TAC (1965–1969) yn Neukölln, Berlin. Wedi'r rhyfel, daeth Gropius yn gyfarwyddwr ar y Staatliches Bauhaus Weimar. Fe arloesoedd ddull newydd o addysgu'r celfyddydau dylunio: hyfforddiant ymarferol fel bod y cynllunydd yn gyfarwydd â'r prosesau a'r defnyddiau. Yn y 1920au, datblygodd nodweddion arddull Bauhaus: ffurfiau geometrig, wynebau llyfn, amliniau rheolaidd, lliwiau cynradd, a defnyddiau modern. Symudodd y Bauhaus i Dessau ym 1925, ac ymddiswyddodd Gropius ym 1928.
Ymgartrefodd Gropius yn Lloegr ym 1934, un flwyddyn wedi i'r llywodraeth Natsïaidd gau'r Bauhaus. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1937 i addysgu pensaernïaeth ym Mhrifysgol Harvard, ac enillodd ddinasyddiaeth Americanaidd ym 1944. Sefydlodd The Architects Collaborative (TAC) ym 1946 gyda chwech o'i gyn-fyfyrwyr, a ddyluniodd sawl adeilad ar draws y byd: Canolfan Graddedigion Harvard, Llysgenhadaeth UDA yn Athen, a Phrifysgol Baghdad. Ymddeolodd Gropius o Harvard ym 1952, ond fe barhaodd yn aelod gweithgar o TAC hyd ei farwolaeth yn 86 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4gan Polster, BerndAwduron Eraill: “...Gropius, Walter...”
Cyhoeddwyd 2019
Rhif Galw: Ar1b Gropius, Walter BG-Hb 0467/2021GInhaltsverzeichnis
Rezension
Llyfr -
5Cyhoeddwyd 2020Awduron Eraill: “...Gropius, Walter...”
Rhif Galw: Ar1a3a BG-Hb 0598/2021TLlyfr -
6Cyhoeddwyd 2019Awduron Eraill: “...Gropius, Walter...”
Rhif Galw: Ar1a3 BG-Hb 0592/2021TLlyfr -
7Cyhoeddwyd 2019Awduron Eraill: “...Gropius, Walter...”
Rhif Galw: Ar1b Gropius, Walter BG-Hb 0640/2019TInhaltstext
Llyfr