Robert Capa
Ffotograffydd rhyfel oedd Robert Capa (22 Hydref 1913 – 25 Mai 1954). Fe'i ganed yn Budapest, Hwngari. Roedd ei waith yn cwmpasu pum rhyfel gwahanol gan gynnwys Rhyfel Cartref Sbaen a'r Ail Ryfel Byd.Daeth yn enwog drwy'r byd yn 1936 am y llun "Falling Soldier/Muerte de un Miliciano" o'r milwr a saethwyd yn ei ben yn syrthio'n farw. Mae amheuaeth ynghylch dilysrwydd y llun erbyn hyn ond erys yn llun eiconig o gyfnod Rhyfel Cartref Sbaen.
Tynnodd ei luniau enwocaf o'r Ail Ryfel Byd ar 6 Mehefin 1944 (D-Day) ar ôl nofio i'r lan gyda'r ail don o filwyr a laniodd ar draeth Omaha. Tynnodd 106 o luniau ond yn dilyn camgymeriad gan aelod o staff yr ystafell dywyll y cylchgrawn ''Life'' yn Llundain, dim ond wyth llun a welodd olau dydd.
Yn 1947, ar y cyd â'r ffotograffydd o Ffrainc, Henri Cartier-Bresson ac eraill, sefydlodd Magnum Photos sef yr asiantaeth gydweithredol gyntaf i ffotograffwyr llawrydd ledled y byd.
Bu farw a'i gamera yn ei law ar ôl sefyll ar ffrwydryn tir wrth weithio ar gyfer ''Life'' yn Rhyfel Cyntaf Indo-Tsieina yn ne-ddwyrain Asia. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3Cyhoeddwyd 1988Awduron Eraill: “...Capa, Robert...”
Rhif Galw: F10 Capa, Robert BG-Hb 1523/89Llyfr -
4Awduron Eraill: “...Capa, Robert...”
Rhif Galw: F10 Capa, Robert BG-Hb 0845/2015KLlyfr -
5gan Schaber, IrmeAwduron Eraill: “...Capa, Robert...”
Cyhoeddwyd 2013
Rhif Galw: F10 Taro, Gerta BG-Hb 0949/2023GInhaltstext
Cover
Inhaltstext
Llyfr -
6Cyhoeddwyd 1974Awduron Eraill: “...Capa, Robert...”
Rhif Galw: F10 Capa, Robert BG-Hb 207/85Llyfr -
7Cyhoeddwyd 2005Awduron Eraill: “...Capa, Robert...”
Rhif Galw: F10 Capa, Robert BG-Hb 0844/2015KLlyfr -
8gan Whelan, RichardAwduron Eraill: “...Capa, Robert...”
Cyhoeddwyd 1989
Rhif Galw: F10 Capa, Robert BG-Hb 243/89KLlyfr -
9Cyhoeddwyd 2011Awduron Eraill: “...Capa, Robert...”
Rhif Galw: F10 Capa, Robert BG-Hb 0457/2011TLlyfr