Hannah Höch

Roedd Hannah Höch (1 Tachwedd 188931 Mai 1978) yn artist ac mae hi heddiw yn cael ei chfyrif fel eicon ffeministaidd. Fel rhan o grŵp o arlunwyr Dada yn Berlin yn y 1920au creodd Höch nifer o weithiau ''ffoto-montage'' arloesol.

Roedd Dada yn fudiad celfyddydol avant-garde Ewropeaidd ar ddechrau'r 20 ganrif fel ymateb yn erbyn erchylltra a gwallgofrwydd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Wedi'i dylanwadu gan waith ''collage'' Pablo Picasso a'r Dadawr Kurt Schwitters torrodd hi ddelweddau o hysbysebion a lluniau o gylchgronau a phapurau newydd a gludodd i greu ''montage''.

Roedd cyfuniad y delweddau gwahanol yn cyfleu adlewyrchiad beirniadol o gyfryngau torfol a'r ffordd roeddent portreadi statws merched a delfrydau hyfrydwch. Mae gwaith fel ''Das schöne Mädchen'' (Y ferch hyfryd) o 1920 yn cael ei ystyri fel gwaith ffeministaidd arloesol.

Roedd y grŵp o arlunwyr Berlin roedd hi'n rhan ohono hefyd yn cynnwys John Heartfield, George Grosz ac Otto Dix. Daeth ddynion y grŵp yn enwog ond ni chafodd Höch yr un sylw tan lawer o flynyddoedd wedyn

Am gyfnod roedd Höch yn gymar i'r arlunydd Dada Raoul Haussman. Roedd eu perthynas yn gythryblus gyda Haussman yn gwrthod gadael ei wraig am Höch gan alw dymuniad Höch i briodi yn syniad ''bourgeois''. Roedd Haussman hefyd yn feirniadol o waith Höch. Ym 1922 dechreuodd perthynas gyda'r ysgrifennwr Mathilda ('Til') Brugman, y ddwy yn cyd-fyw am naw mlynedd.

Ym 1935, dechreuodd Höch perthynas gyda Kurt Matthies, ac roedd y pâr yn briod rhwyg 1938 a 1944. Cafodd gwaith Höch ei gondemnio fel ''Entartete Kunst'' ('celf ddirywiedig') gan y Natsïaid a'i atal rhag ei arddangos yn gyhoeddus. Roedd y ffaith nad oedd ei gwaith wedi cael fawr o sylw yn fantais iddi beidio cael ei herlyn yn fwy gan y Natsïaid.

Cafodd ei gwaith mwy o sylw wedi'r ail ryfel byd a daliodd ati'n creu gwaith ffoto-montage ac yn arddangos o amgylch y byd nes iddi farw ym 1978 yn 88 oed.

Delwedd:Theo van Doesburg 106.jpg|bawd|350px|chwith|Nelly van Doesburg, Piet Mondrian ac Hanna Höch yn stiwdio Theo van Doesburg Delwedd:Hannah Höch 1974.jpg|Ffoto o Hannah Höch yn 1974 Delwedd:Gedenktafel Büsingstr 16 (Fried) Hannah Höch.jpg|Plac yn Berlin er cof am Hannah Höch Delwedd:1917-78 Adressbuch Hannah Hoech - DADA DADAHIER DADADA - anagoria.JPG|Llyfr cyfeiriadau 1917-78 Hannah Höch
DADA DADAHIER DADADA Delwedd:Hannah Höch Denkmal Berlin.jpg|Cofeb Hannah Höch, ar lan llyn Tegel, Berlin Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 21 - 29 canlyniadau o 29 ar gyfer chwilio 'Höch, Hannah', amser ymholiad: 0.04e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 21
    Cyhoeddwyd 2001
    Awduron Eraill: “...Höch, Hannah...”
    Rhif Galw: BK2 Höch, Hannah BG-Hb 2804/89-3,2, 1. Ex.
    Llyfr
  2. 22
    Cyhoeddwyd 1995
    Awduron Eraill: “...Höch, Hannah...”
    Rhif Galw: BK3a3b BG-Hb 2804/89-2,2, 2. Ex.
    Llyfr
  3. 23
    Cyhoeddwyd 1995
    Awduron Eraill: “...Höch, Hannah...”
    Rhif Galw: BK2 Höch, Hannah BG-Hb 2804/89-2,2, 1. Ex.
    Llyfr
  4. 24
    Cyhoeddwyd 2016
    Awduron Eraill: “...Höch, Hannah...”
    Rhif Galw: BK2 Höch, Hannah BG-Hb 0824/2023B
    Llyfr
  5. 25
    Cyhoeddwyd 1995
    Awduron Eraill: “...Höch, Hannah...”
    Rhif Galw: BK3a3b BG-Hb 2804/89-2,1, 2. Ex.
    Llyfr
  6. 26
    Cyhoeddwyd 1995
    Awduron Eraill: “...Höch, Hannah...”
    Rhif Galw: BK2 Höch, Hannah BG-Hb 2804/89-2,1, 1. Ex.
    Llyfr
  7. 27
    Cyhoeddwyd 2001
    Awduron Eraill: “...Höch, Hannah...”
    Rhif Galw: BK2 Höch, Hannah BG-Hb 2804/89-3,1, 3. Ex.
    Llyfr
  8. 28
    Cyhoeddwyd 2001
    Awduron Eraill: “...Höch, Hannah...”
    Rhif Galw: BK3a3b BG-Hb 2804/89-3,1, 2. Ex.
    Llyfr
  9. 29
    Cyhoeddwyd 2001
    Awduron Eraill: “...Höch, Hannah...”
    Rhif Galw: BK2 Höch, Hannah BG-Hb 2804/89-3,1, 1. Ex.
    Llyfr